This post is also available in: English (English)
“Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod digon am y ffordd y mae canser y prostad yn effeithio ar fywydau dynion ar ôl cael diagnosis a thriniaeth. Mae angen i ni wybod mwy ar frys er mwyn sicrhau bod pob dyn yn dychwelyd i deimlo mor dda ag oeddent cyn cael diagnosis o ganser y prostad ac am y tro cyntaf dylai’r fenter unigryw hon ein galluogi i ddod o hyd i’r atebion sydd eu hangen arnom”. Paul Villanti, Cyfarwyddwr Rhaglenni yn Sefydliad Movember

“Bydd yr astudiaeth gyffrous hon yn ymchwilio i’r ystod lawn o faterion a allai effeithio ar ddyn ar ôl iddo gael diagnosis o ganser y prostad. Mi fydd hefyd yn edrych a yw dynion o oed, lleoliadau, ethnigrwydd a grwpiau economaidd-gymdeithasol gwahanol yn cael profiadau gwahanol. Byddwn yn defnyddio’r canlyniadau hyn i sicrhau y gall pob dyn yn y DU gael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn helpu dynion a’u meddygon i wneud y penderfyniadau gorau am driniaeth a gofal. Yn y pen draw, ein gobaith yw gwella bywydau dynion â chanser y prostad, a dylai’r ymchwil hwn ein helpu i wneud hynny”. Dr Sarah Cant, Cyfarwyddwr Polisi a Strategaeth yn Prostate Cancer UK