Grŵp Cynghori Defnyddwyr

This post is also available in: English (English)

Sefydlwyd y Grŵp Cynghori Defnyddwyr i roi cymorth a chyngor i’r tîm astudio trwy gydol y prosiect.

Hugh Butcher (Cadeirydd y Grŵp)

Hugh Butcher

Mae Hugh Butcher wedi bod yn hyrwyddwr cleifion ac yn ymchwilydd defnyddwyr y gwasanaeth, yn gweithio gyda sefydliadau a grwpiau statudol a’r sector gwirfoddol, dros y chwe blynedd diwethaf.

Yn dilyn gwaith fel gweithiwr cymdeithasol iechyd meddwl, ac addysgu/ymchwilio ym maes addysg uwch, ymddeolodd yn gynnar o’i swydd fel Pennaeth Adran mewn Coleg Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn 2006.  Roedd ei ddiddordebau academaidd ac ymchwil yn canolbwyntio ar weithredu gan ddinasyddion, ymarfer cymunedol a democratiaeth gyfraniadol.

Mae ei swyddi diweddar yn cynnwys bod yn aelod o ‘Dasglu Ysbrydol’ Cymorth Canser Macmillan a gweithgareddau ‘Lleisiau Canser’ eraill Macmillan, a Chydgadeirydd Grŵp Partneriaeth Defnyddwyr Rhwydwaith Canser Swydd Efrog, a Chydgadeirydd Grŵp Partneriaeth Canser Caerefrog a’r Cyffiniau.  Mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o weithgareddau Ymchwil a Datblygu.

Mae profiad Hugh o gyfranogiad defnyddwyr wedi pwysleisio natur ganolog gweithio gyda chleifion a gofalwyr iddo, sy’n eu grymuso i weithio mewn partneriaeth lawn gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain.

John Keenan

John Keenan

Mae John yn Was Sifil 62 oed sydd wedi ymddeol o Belfast; ar hyn o bryd mae’n weithiwr gwirfoddol i Prostate Cancer UK (PCUK) ac un o’i brif rolau yw cyflwyno sgyrsiau ymwybyddiaeth o ganser y prostad a rhoi gwybodaeth am wasanaethau y mae PCUK yn eu darparu i ystod eang o grwpiau ledled Gogledd Iwerddon.

Cafodd John ddiagnosis o ganser y prostad yn 2013 a dewisodd gael triniaeth Brachytherapi (roedd hyn yn cynnwys mewnosod hadau ymbelydrol bach iawn i mewn i chwaren y prostad).

Daeth John yn rhan o brosiect ymchwil LAPCD ym mis Hydref 2014 ac mae’n cyfrannu fel aelod o’i Grŵp Cynghori Defnyddwyr.  Mae’n llawn cyffro am y prosiect a chred y bydd yn rhoi buddion sylweddol nid yn unig i’r rheiny â chanser y prostad ond hefyd i’w partneriaid, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Darryl Catton

Darryl Catton

Mae Darryl yn Swyddog Llywodraeth Leol sydd wedi ymddeol gyda thros 38 mlynedd o brofiad mewn Technoleg Gwybodaeth, ac ef yw cynrychiolydd defnyddwyr Cymru.

Mae’n aelod gweithredol o Grŵp Cymorth Canser y Prostad Caerdydd ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd ag aelodau eraill sydd wedi cael diagnosis o ganser y prostad ac sy’n cael triniaeth.  Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth eang iddo o ddynion sydd wedi cael diagnosis o ganser y prostad a’r dewisiadau y maent wedi eu gwneud ar y triniaethau gwahanol sydd ar gael.

Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad ym mis Gorffennaf 2014 a chafodd nifer o brofion pellach i bennu ei raddfa.  Yn dilyn trafodaethau gyda’i ymgynghorydd, siarad â dynion eraill â chanser y prostad a deall ymchwil ar-lein, dewisodd fynd ymlaen i Wyliadwraeth Weithredol.

George Crawford

George Crawford

Mae George yn hyfforddwr gyrru sydd wedi ymddeol, ac mae bellach yn Weinidog yr Efengyl.  Mae George yn llysgennad i BHI (Menter Iechyd Pobl Dduon) yn Leeds.

Mae wedi cael diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser y prostad er 2005.

 

Alastair Graham

Alastair Graham

Ganed Alastair yn Glasgow yn 1953 a chafodd ei fagu yn Elderslie, ac mae bellach wedi aros yn nhref gyfagos Johnstone gyda’i wraig Hazel, eu dau blentyn a dau o wyrion sydd wedi aros yn Elderslie.  Ymunodd Alastair â heddlu Strathclyde ym mis Mawrth 1979 ac ychydig cyn gwasanaethu am 30 o flynyddoedd, cafodd ddiagnosis o ganser y prostad, a oedd yn syndod mawr am ei fod yn berson heini ac iach, ac yn mwynhau Tukido, crefft ymladd yr oedd, ar y pryd yn hyfforddwr rhyngwladol 4ydd Dan.

Ar ôl cyfres o brofion ac ymgynghoriad, penderfynodd, ynghyd â’i wraig Hazel, mai’r opsiwn gorau iddo ef oedd prostatectomi radical.  Cafodd y llawdriniaeth ym mis Hydref 2008 ac wedi hynny dychwelodd i’r gwaith ym mis Chwefror 2009 am ddau fis cyn ymddeol ym mis Ebrill 2009.

Nid oedd angen unrhyw driniaethau pellach ar Alastair ac ar ôl 5 mlynedd o fonitro cafodd ei hysbysu gan ei ymgynghorydd Mr Underwood ei fod “wedi ei wella” a chafodd ei synnu ond roedd yn falch iawn clywed hynny.

Mae’n dal i ymarfer crefft ymladd ac mae bellach yn 5ed Dan ac yn hyfforddi’n rheolaidd yn y gampfa.  Mae Alastair hefyd yn cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol lleol ac yn cynorthwyo ac yn cefnogi PCUK.

 

Bydd y Grŵp Cynghori Defnyddwyr hefyd yn cael ei gefnogi gan:

  • Dr Penny Wright – Athro Cywllt mewn Gofal Canser Seicogymdeithasol, Prifysgol Leeds
  • Dr Eila Watson – Athro Gofal Canser Cefnogol, Prifysgol Oxford Brookes
  • Mr Aidan Moss – Pennaeth Gweithredol Gwerthuso Effaith, Prostate Cancer UK
  • Ms Lara Spiby – Prostate Cancer UK
  • Ms Lisa White – Cynrychiolydd Nyrsio BAUN