Os Byddaf yn Dymuno Tynnu’n Ȏl

This post is also available in: English (English)

Os wyf yn Dymuno Tynnu Allan

Os ydych yn dymuno tynnu allan o’r astudiaeth ac eisiau i wybodaeth bersonol sy’n nodi pwy ydych gael ei dileu, gallwch wneud hynny trwy gysylltu â llinell gymorth Bywyd ar ôl Diagnosis o Ganser y Prostad (0808 8010678), neu Swyddfa’r Prosiect yn Leeds (0113 2069252), neu Belfast (028 90971631). Nid oes rhaid i chi roi rheswm pam yr ydych eisiau tynnu allan. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw ofal a gewch na’ch hawliau statudol nawr nac yn y dyfodol. Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bellach ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto.

 

Os ydych yn dymuno tynnu allan o’r astudiaeth, ffoniwch y rhifau uchod o fewn 6 mis o’r dyddiad y gwnaethom ysgrifennu atoch am y tro cyntaf. Mae’r cyfnod hwn o 6 mis yn cydnabod y bydd y tîm ymchwil yn dechrau defnyddio’r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi cyn gynted â phosibl ac y gallai fynd yn anodd nodi pa wybodaeth sy’n berthnasol i chi yn nes ymlaen.