Sut caiff y Prosiect ei Ariannu?

This post is also available in: English (English)

Ariennir yr astudiaeth gan Prostate Cancer UK (PCUK) a Sefydliad Movember.

PCUK oedd y sefydliad cenedlaethol cyntaf ar gyfer canser y prostad yn y DU, a bellach dyma elusen iechyd dynion mwyaf y DU. Ei nod yw gwella gofal a lles y rheiny sydd wedi eu heffeithio gan ganser y prostad, cynyddu buddsoddiad mewn ymchwil, a chodi ymwybyddiaeth cyhoeddus a gwleidyddol o glefyd sydd wedi cael ei esgeuluso am amser hir.

I ganfod mwy am PCUK ewch i www.prostatecanceruk.org.

Er mis Tachwedd 2004, mae elusen Sefydliad Movember wedi cynnal digwyddiadau Movember er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth o fanterion iechyd dynion.  Mae Movember wedi ariannu dros 850 o raglenni mewn 21 o wledydd ar draws y byd, sydd yn achub bywydau dynion sydd wedi eu heffeithio gan ganser y prostad, canser y ceilliau, a phroblemau iechyd meddwl.

I ganfod mwy am Sefydliad Movember ewch i www.uk.movember.com.