This post is also available in: English (English)
Rebecca Mottram BA, BSc (RSCN), Rheolwr Prosiect ar y Cyd (Leeds)
Mae cefndir academaidd Rebecca yn y Celfyddydau yn ogystal â Nyrsio, ac mae wedi gweithio gyda phobl â materion iechyd meddwl ac anableddau dysgu, ac fel nyrs pediatrig gyffredinol.
Aeth ymlaen i arbenigo ym maes ymchwil, gan weithio fel Uwch Nyrs Ymchwil y GIG yng Nghaergrawnt ac yn Leeds, cyn ymuno â’r Prosiect Bywyd ar ôl Diagnosis o Ganser y Prostad. Ynghyd â’i rôl fel Rheolwr Prosiect ar y Cyd mae’n fam ac hefyd yn berchen ar fusnes ar-lein sy’n gwerthu dillad plant unigryw.
Majorie Allen, DN, MSc, RGN, RSCN, Rheolwr Prosiect ar y Cyd (Leeds)
Cymhwysodd Majorie fel nyrs ym 1975, a gweithiodd yn bennaf ym maes gofal canser, yn gofalu am oedolion a phlant oedd wedi cael trawsblaniad mer esgyrn, am dros 20 mlynedd.
Er 2003 mae wedi gweithio fel uwch nyrs ymchwil ym maes oncoleg oedolion a phediatrig, a meddygaeth bediatrig gyffredinol, yn Ysbytai Addysgu Leeds.
Ar hyn o bryd mae Majorie yn astudio ar gyfer MSc ym maes ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Leeds. Mae hefyd yn gweithio’n rhan-amser fel uwch nyrs ymchwil.
Dr Therese Kearney, Rheolwr Prosiect (Belfast)
Ymunodd Therese â Chofrestrfa Ganser Gogledd Iwerddon yn 2013, gan weithio ar astudiaeth fer yn dilysu cyflawnder a chywirdeb Cofrestrfa Ganser Gogledd Iwerddon.
Hi yw rheolwr prosiect modiwl 4 Astudiaeth Ryngwladol Meincnodi Canser sy’n ymchwilio i oedi wrth roi diagnosis a thrin canserau’r fron, yr ofari, yr ysgyfaint a’r colon a’r rhefr. Astudiodd Therese Fwyd a Maeth ar lefel gradd a chwblhaodd PhD mewn Maeth ac Ymarfer Corff. Bydd yn cydlynu ymchwil LAPCD yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y cyd â Dr Anna Gavin.
Linda Roberts, Gweinyddwr Prosiect (Leeds)
Cyn ymuno â phrosiect LAPCD, gweithiodd Linda am dros 20 mlynedd i Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), yn rheoli ac yn gweinyddu cystadlaethau pensaernïol ar gyfer prosiectau adeiladu newydd ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat ledled y DU.
Ymysg ei chleientiaid yr oedd Ymddiriedolaeth GIG Guy’s a St Thomas, lle’r oedd yn cynnal cystadlaethau i ddethol dyluniadau ar gyfer Ysbyty Plant Evelina, a’r Ganolfan Triniaeth Canser newydd. Mae Linda wedi trefnu nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus ac arddangosfeydd i hyrwyddo gwaith penseiri i’r cyhoedd.
Mae Linda yn weinyddwr ac yn ymgynghorydd marchnata profiadol a bydd yn cyflwyno’r sgiliau hyn i brosiect LAPCD.