Tîm Ymchwilio

This post is also available in: English (English)

I gynnal yr astudiaeth, mae tîm ymchwil craidd wedi cael ei lunio, o dan arweiniad prif archwilwyr.  Bydd tîm y prosiect hwn yn gweithio’n agos gyda grwpiau arbenigol Clinigol/Gwyddonol a Grwpiau Cynghori Defnyddwyr yn ogystal ag arweinwyr barn glinigol a methodolegol sydd wedi cytuno i gydweithredu.

 

Prif Archwilwyr

Professor Adam Glaser

Mae Adam Glaser yn Ymgynghorydd ac yn Athro Cyswllt Clinigol mewn Oncoleg Pediatrig ac Effeithiau Hwyr Canser yn Leeds, lle mae’n arwain y rhaglen olynol hirdymor.  Hyd at Ebrill 2013, ef oedd Cyfarwyddwr Clinigol Menter Genedlaethol Goroeswyr Canser yn yr Adran Iechyd, Lloegr, Arweinydd Effeithiau Hwyr Rhwydwaith Canser Swydd Efrog ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Canser yn Gwella’r GIG.

Mae gan Adam brofiad helaeth o fesur ansawdd bywyd yn ymwneud ag iechyd ac asesu canlyniadau a nodir gan gleifion ymysg goroeswyr canser.  Arweiniodd ei ymchwil Doethuriaeth yn y 1990au canol at draethawd hir o’r enw ‘Health Status following therapeutic interventions in young people’.  Ers hynny mae wedi ymchwilio i effeithiau hwyr canser ac asesu canlyniadau a nodir gan gleifion ac wedi cyhoeddi’n helaeth arnynt.

Datblygodd Adam Raglen Ganser PROMs ar yr Adran Iechyd (2010-13) a’i harwain.  Cynhaliwyd cynllun peilot llwyddiannus o fethodoleg ar gyfer casglu PROMs yn genedlaethol ar gleifion canser (2011) ac o ganlyniad i hynny fe’i cyflwynwyd i holl oroeswyr canser y colon a’r rhefr 12-36 mis ar ôl diagnosis yn Lloegr (2013).  Mae’n dal i gynghori GIG Lloegr yn ymwneud â chasglu PROMs ym maes canser a meysydd clinigol eraill yn cynnwys trawma.  Ar hyn o bryd, mae’n aelod o ICHOM, y consortiwm rhyngwladol wedi ei leoli yn Harvard sy’n datblygu canllawiau ar gyfer safoni asesu canlyniadau yn dilyn canser y prostad.

 

Dr Anna Gavin

Dr Anna Gavin

Anna Gavin, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Canolfan Astudio Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Queen’s Belfast a Chyfarwyddwr Cofrestrfa Ganser Gogledd Iwerddon yw arweinydd cenedlaethol mentrau’r DU a dadansoddi yn Rhwydwaith Cenedlaethol Gwybodaeth am Ganser (NCIN).

Hi hefyd yw’r PI ar grant Prostate Cancer UK sy’n cymharu canlyniadau a nodir gan gleifion ar ynys Iwerddon, mae dadansoddiadau’n mynd rhagddynt ar 3000+ o arolygon sydd wedi eu cwblhau.  Mae ganddi brofiad o gydweithredu rhyngwladol fel aelod o Rwydwaith Ewropeaidd Cofrestrfeydd Canser a hi yw arweinydd Gogledd Iwerddon ar gyfer Partneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser (ICBP) sy’n archwilio’r rhesymau dros wahaniaethau rhyngwladol o ran goroesi canser ar draws awdurdodaethau Ewrop, Awstralia a Chanada.

Mae Cofrestrfa Ganser Gogledd Iwerddon o dan ei chyfarwyddyd hi wedi cynnal archwiliadau rheolaidd o’r boblogaeth yn ymwneud â gofal canser y prostad sydd â chanfyddiadau sy’n berthnasol i bolisi ac yn creu argymhellion ar gyfer cyhoeddiadau newid gwasanaethau.  Ei bwriad yw archwilio cleifion canser y prostad a gafodd ddiagnosis yn 2012 yn cynnwys yr holl gwestiynau perthnasol o’r archwiliad sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae wedi sicrhau bod cleifion yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar waith Cofrestrfa Ganser Gogledd Iwerddon o’r grŵp llywio a’r cyngor, i gael rôl mewn grwpiau llywio prosiectau ymchwil a chael eu cynnwys mewn adroddiadau a’u lansio.

Mae’n aelod gweithredol o Gymdeithas Cofrestrfeydd Canser y DU ac Iwerddon ac yn cysylltu’n rheolaidd â chydweithwyr yn y cofrestrfeydd.

 

Cyd-archwilwyr

Dr Penny Wright

Dr Penny Wright

Yn dilyn gradd mewn Seicoleg a chymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol, gweithiodd Penny fel gweithiwr cymdeithasol am ddwy flynedd ar bymtheg, y saith olaf mewn ysbyty canser rhanbarthol.  Ym 1996, symudodd Penny i ymchwil oncoleg seicogymdeithasol er mwyn gweithio ar brosiect wedi ei arwain gan yr Athro Peter Selby ar gasglu data ansawdd bywyd yn electronig fel mater o drefn ym maes canser.

Cwblhaodd PhD rhan-amser yn 2002 yn ymwneud ag effaith gymdeithasol canser ar gleifion.  Arweiniodd hyn at ddatblygu’r Rhestr Anawsterau Cymdeithasol (SDI-21), sydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n genedlaethol mewn ymarfer clinigol fel rhan o raglen asesu anghenion holistaidd electronig Cymorth Canser Macmillan ac yn rhyngwladol yng Nghanada.  Yn ogystal, defnyddiwyd yr offeryn fel un o Fesurau Canlyniadau a Nodir gan Gleifion (PROMs) yn arolygon Cenedlaethol CancerPilot a PROMs y Colon a’r Rhefr yr Adran Iechyd.

Yn 2009, cafodd Penny grant gan Gymorth Canser Macmillan i bennu dichonoldeb cynnal astudiaeth cohort ar raddfa fawr i asesu canlyniadau seicolegol ymysg goroeswyr canser y prostad, y fron a’r colon a’r rhefr.  Roedd y prosiect yn llwyddiannus gan arwain at ddau o’r technolegau newydd yn cael eu mabwysiadu er mwyn cael eu defnyddio’n ehangach, a chyhoeddi, adolygu a pharatoi cyfres o bapurau technegol, methodolegol, dichonoldeb ac iechyd.

 

Professor Eila Watson

Dr Eila Watson

Mae Eila Watson wedi bod yn Athro Gofal Canser Cefnogol ym Mhrifysgol Oxford Brookes er 2007.  Mae Eila yn ymchwilydd gwasanaethau iechyd profiadol a’i phrif weithgaredd ymchwil yw maes goroesi canser.  Mae ganddi ddiddordeb penodol yn cefnogi dynion â chanser y prostad a’u teuluoedd ac mae wedi gwneud ymchwil yn y maes hwn yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, gan gael grantiau gan Cancer Research UK, Rhaglenni Sgrinio Canser y GIG, Cymorth Canser Macmillan a Prostate Cancer UK.

Mae hi wedi cynnal arolygon meintiol ac ymchwil ansoddol i archwilio a disgrifio profiadau ac anghenion y grŵp cleifion hwn.  Mae ei gwaith wedi arwain at nifer o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion a arolygir gan gymheiriaid, ac i dreial peilot presennol a ariennir gan Prostate Cancer UK o ymyrraeth dan arweiniad nyrsys wedi ei gyflenwi mewn gofal sylfaenol gyda’r nod o wella ansawdd bywyd goroeswyr canser y prostad yn ymwneud â’r prostad.

Eila yw Cadeirydd is-grŵp Goroeswyr Grŵp Astudiaethau Clinigol Gofal Sylfaenol Ymchwil Canser Cenedlaethol, ac mae’n aelod o Grŵp Ymgynghori ar Ymchwil er Budd Cleifion NIHR, Grŵp Ymgynghori Seicogymdeithasol TENOVUS a Phwyllgor Gweithredol Cymdeithas Oncoleg Seicogymdeithasol Prydain.

 

Dr Amy Downing

Dr Amy Downing

Mae Amy yn Uwch Gymrawd Ymchwil Epidemioleg Canser ym Mhrifysgol Leeds.  Mae ganddi radd mewn Bioleg Dynol o Brifysgol Loughborough ac mae wedi cwblhau PhD yn y defnydd o wasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys ym Mhrifysgol Birmingham.  Mae wedi bod yn Leeds er 2005.

Mae ei Hymchwil wedi canolbwyntio ar sawl math gwahanol o ganser yn cynnwys melanoma malaen, canser y fron, canser y colon a’r rhefr a chanser y prostad.  Mae gan Amy ddiddordeb yng nghysylltiad a dadansoddiad setiau data cymhleth sy’n cael eu casglu fel mater o drefn.  Yn ddiweddar roedd yn gysylltiedig â dadansoddi’r data a gasglwyd gan arolwg PROMs canser y colon a’r rhefr a gynhaliwyd gan GIG Lloegr.

Roedd gan Amy rôl allweddol yn cysylltu data PROMs â setiau data eraill, yn cynnwys Ystadegau Pyliau mewn Ysbyty ac Arolwg Iechyd Lloegr wrth ddadansoddi canlyniadau ansawdd bywyd yn ymwneud ag iechyd goroeswyr canser sydd wed eu cynnwys yn yr arolwg.

Fel rhan o dîm Bywyd ar ôl Diagnosis o Ganser y Prostad, bydd Amy yn arwain ar gysylltiad a dadansoddiad data y wybodaeth a ddarperir gan ddynion trwy’r arolygon hyn.

 

Dr Paul Kind

Dr Paul Kind

Mae gan Paul gefndir rhywfaint yn anghonfensynol fel ymchwilydd academaidd ym maes economeg iechyd.  Astudiodd amrywiaeth o bynciau yn cynnwys Mathemateg, Economeg, Seicoleg a Gwyddor Cyfrifiadureg cyn dechrau bywyd fel dyluniwr systemau mewn uned ymchwil peirianneg.  Aeth ei fywyd proffesiynol i gyfeiriad cwbl wahanol ar ôl gwneud MSc ym Mhrifysgol Warwick, lle astudiodd Microeconomeg, Gwyddorau Gwybodaeth a Seicoleg Sefydliadol.

Gweithiodd i’r Comisiwn Brenhinol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel gwyddonydd gwybodaeth gyda diddordeb arbennig yn HAA, rhagflaenydd HSE, cyn derbyn swydd yn Ysgol Feddygol Ysbyty Charing Cross. Symudodd i’r Ganolfan Economeg Iechyd newydd ei ffurfio ym Mhrifysgol Caerefrog ym 1981, gan weithio ar ddulliau ar gyfer gwerthuso iechyd mewn gwerthusiad economaidd.  Ym 1988, ef oedd y cyntaf i nodi data marwolaethau mewn ysbyty i’r GIG.

Ef yw sylfaenydd Grŵp EuroQoL ac am dros 25 mlynedd mae wedi bod yn gysylltiedig â phob agwedd ar ddatblygu gwyddonol, profi a chymwysol EQ-5D – mesur generig o statws iechyd sydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n fyd-eang.

Mae ei ddiddordebau ymchwil presennol yn canolbwyntio ar 3 thema: datblygu dulliau newydd o ddisgrifio a gwerthuso iechyd meddwl; defnyddio gwerthoedd cleifion ar gyfer iechyd i lywio gofal iechyd a gwneud penderfyniadau; bodloni anghenion gwybodaeth rheoli gan ddefnyddio data statws iechyd a ddefnyddir fel mater o drefn.

 

Yr Athro y Fonesig Jessica Corner

Dr Jessica Corner

Jessica yw Deon Cyfadran y Gwyddorau Iechyd ac Athro Canser a Gofal Lliniarol ym Mhrifysgol Southampton.

Hi oedd un o’r myfyrwyr cyntaf i gael gradd mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Llundain ac aeth ymlaen i arbenigo mewn Nyrsio Canser yn Ysbyty Brenhinol Marsden.  Cafodd ei PhD ym 1990 o Goleg Kings Llundain.

Trwy gydol ei gyrfa mae wedi cael ystod eang o ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar wella gofal a chymorth ar gyfer pobl â chanser gan gyfuno gwaith academaidd, clinigol ac ymchwil.  Mae’n gyd-gadeirydd Grŵp Ymgynghori ar Brofiad Cleifion â Chanser yr Adran Iechyd, corff sy’n cynghori rhaglen Arolwg Profiad Cleifion â Chanser yn Lloegr.  Mae hefyd yn un o sylfaenwyr grŵp Llywio Menter Genedlaethol Goroesi Canser yr Adran Iechyd, yn arwain y ffrwd waith sy’n ymwneud â chefnogi hunanreolaeth.  Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Llywio Byd-eang Goroesi Canser y Prostad Sefydliad Movember.

 

Mr Hugh Butcher

Hugh Butcher

Mae Hugh Butcher wedi bod yn hyrwyddwr cleifion ac yn ymchwilydd defnyddwyr y gwasanaeth, yn gweithio gyda sefydliadau a grwpiau y sector statudol a gwirfoddol, dros y chwe blynedd diwethaf.

Yn dilyn gwaith fel gweithiwr cymdeithasol iechyd meddwl, ac addysgu/ychwilio mewn addysg uwch, ymddeolodd yn gynnar o’i swydd fel Pennaeth Adran mewn Coleg Addysg Uwch a Phellach yn 2006.  Roedd ei ddiddordebau academaidd ac ymchwil yn canolbwyntio ar weithredu gan ddinasyddion, ymarfer cymunedol a democratiaeth gyfraniadol.

Yn dilyn triniaeth am ganser y prostad yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Caerefrog, a Sefydliad Oncoleg Ysbyty Prifysgol St James, cafodd ei drwytho ym maes cyfranogiad y cyhoedd a chleifion (PPI) ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Mae ei rolau diweddar yn cynnwys bod yn aelod o ‘Dasglu Ysbrydol’ Cymorth Canser Macmillan a gweithgareddau ‘Lleisiau Canser’ eraill Macmillan, a Cydgadeirydd Grŵp Partneriaeth Defnyddwyr Rhwydwaith Canser Swydd Efrog a Chydgadeirydd Grŵp Partneriaeth Canser Caerefrog a’r Cyffiniau.  Mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o weithgareddau Ymchwil a Datblygu.

Mae profiad Hugh o gyfranogiad defnyddwyr wedi pwysleisio natur ganolog gweithio gyda chleifion a gofalwyr iddo, sy’n eu grymuso i weithio mewn partneriaeth lawn gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain.

Yr Athro Peter Selby CBE

Peter photo

Mae Peter Selby yn feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol St James, ac mae wedi gweithio ym maes gofal canser er 1976.  Roedd Peter yn Bennaeth Oncoleg ac Ymchwil Canser yn Leeds (1988-2010) ac roedd yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Fiofeddygol ac Iechyd (2008-2012) oedd yn cysylltu gwyddorau sylfaenol ag ymchwil drosiadol a chlinigol.

O 2000-2004 cychwynnodd ac roedd yn Gyfarwyddwr ar Rwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Canser.  O 2004-2010 cychwynnodd ac roedd yn Gyd-gyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Glinigol NIHR, yn cynorthwyo ymchwil glinigol yn y GIG ac yn cyflawni gwelliannau o ran cyfranogiad ac ansawdd ymchwil a gwasanaethau.

Cafodd ei benodi’n Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ym 1998, a chafodd CBE yn 2001 am wasanaethau i ymchwil canser a gofal canser.  Mae Peter yn Ymddiriedolwr Canser Research UK, yn Gadeirydd Grŵp Cynghori ar Bolisi Cyhoeddus Cancer Reaserch UK ac yn aelod o Bwyllgor Strategaeth ymchwil Cancer Research UK.

 

Dr Luke Hounsome

Dr Luke Hounsome

Mae Luke Hounsome wedi bod yn brif ddadansoddwr i SSCRG Canserau Wrolegol UCIN er 2009.

Mae wedi bod yn gysylltiedig â nifer o brosiectau i ddeall canser y prostad gan ddefnyddio data fel mater o drefn, yn cynnwys adroddiadau ar amrywiadau o ran marwolaethau a thriniaeth.

Mae hefyd wedi gweithio’n agos gyda Prostate Cancer UK ar wahaniaethau ym mherygl oes rhwng grwpiau ethnig.  Mae wedi cefnogi nifer o gyhoeddiadau wedi eu hadolygu gan gymheiriaid yn ymchwilio i agweddau ar ganser y prostad.

 

Dr Richard Wagland

Dr Richard Wagland

Mae Richard Wagland wedi bod yn uwch gymrawd ymchwil yng nghyfadran y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Southampton er 2010, ac yn yr amser hwnnw mae wedi casglu a dadansoddi data a rheoli prosiectau ar gyfer sawl astudiaeth ymchwil ym maes gofal canser, gan ymchwilio i faterion ansawdd bywyd, ymyriadau gofal cefnogol, llwybrau cleifion a datblygiad PROM, a defnyddio dyluniadau meintiol, ansoddol a dulliau cymysg.

Gan gyfeirio at waith yn PROMs, roedd Richard yn un o dîm a ddatblygodd PROM oedd yn sensitif yn benodol i ansawdd y gwasanaeth nyrsio i’w ddefnyddio mewn unedau cemotherapi gofal dydd (Armes et al 2013), ac sydd ar hyn o bryd yn datblygu set o PROMs sy’n mesur ansawdd gwasanaeth sy’n adlewyrchu’r tîm aml-ddisgyblaethol ehangach yn ystod chemotherapi (Griffiths et al).

Roedd hefyd yn gysylltiedig â dadansoddi’r sylwadau neges testun am ddim yn Arolwg peilot Cenedlaethol Goroesi Canser (Corner a Wagland 2012; Corner et al 2013), ac Arolwg PROM Cenedlaethol y Colon a’r Rhefr (Lloegr 2013), lle’r arweiniodd ddatblygiad dull o chwilio testun gan ddefnyddio algorithmau sy’n dysgu’r peiriant er mwyn adnabod sylwadau ar ‘bynciau cyfredol’ penodol o fewn setiau data mawr.

 

Yr Athro Julia Verne

Professor Julia Verne

Mae Julia Verne wedi bod yn Ymgynghorydd ym Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd er 1996 ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes epidemioleg canser a’r gwasanaethau iechyd gan weithio’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Mae wedi cael amrywiaeth eang o swyddi uwch ac ar hyn o bryd hi yw Arweinydd Gwybodaeth a Deallusrwydd Public Health England ar gyfer Canser ac Arweinydd Clinigol Rhwydwaith Gwybodaeth Cenedlaethol Gofal Diwedd Oes.  Mae ei thîm wedi bod yn Arweinydd NCIN ar gyfer Canser Wrolegol er 2008 gan greu 8 o adroddiadau a mathau amrywiol o gynnyrch, a nifer o gyhoeddiadau ar gyfer cyfnodolion.

Mae ar hyn o bryd yn gadeirydd Grŵp Datblygu Canllawiau NICE (GDG) ar gyfer Canser y Bledren ac yn flaenorol mae wedi cadeirio GDG NICE ar gyfer Canser y Croen yn 2003-06 a’i ddiwygio yn 2009-10.  Mae ei thîm yn darparu’r asesiad o anghenion epidemiolegol ar gyfer CDG Canser y Bledren NICE ac yn flaenorol wedi cyfrannu data ar gyfer GDG Canser y Prostad NICE yn 2007 ac Adolygiad 2012-13.  Cafodd grant gan NAEDI i wneud gwaith cefndir ar PROMs ar gyfer cleifion Canser y Croen gyda Phrifysgol Gorllewin Lloegr yn 2012.  Cafodd adolygiad llenyddiaeth ei baratoi i nodi materion allweddol.

 

Mr Conan Donnelly

Conan Donnelly

Mae Conan Donnelly, cymrawd ymchwil, Canolfan Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Queen’s Belfast, ar hyn o bryd yn gweithio ar astudiaeth wedi ei ariannu gan CRUK i farwolaeth gynnar ymysg cleifion canser.

Mae hefyd yn gyfrifol am gydlynu gwaith Partneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil, cydlynu’r grwpiau cynghori clinigol a pholisi yn ogystal â dylunio a chyflenwi cydran NI y rhaglen ymchwil.

Mae Conan yn goruchwylio cyhoeddi ystadegau swyddogol yn NICR yn ogystal â chymeradwyaeth foesegol ar gyfer cofrestru a chaffael ffynonellau data newydd.