This post is also available in: English (English)
Gyda chefnogaeth Prostate Cancer UK a Sefydliad Movember, mae ‘Bywyd ar ôl Diagnosis o Ganser y Prostad’ yn brosiect ymchwil arloesol gyda’r nod o ganfod sut mae bywyd mewn gwirionedd i ddynion â chanser y prostad yn y DU, a’r hyn sydd angen digwydd i’w wella.
Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Leeds a Phrifysgol Queen’s Belfast, yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Southampton, Prifysgol Oxford Brookes, a Thîm Gwybodaeth a Deallusrwydd De Orllewin Lloegr (PHE) yn arwain yr astudiaeth fanwl, gyntaf erioed ar draws y DU, o ddynion sydd wedi cael diagnosis o ganser y prostad. Nod y rhaglen yw canfod yr effaith y mae canser y prostad yn ei gael ar les corfforol, emosiynol a chymdeithasol dynion, yn ogystal ag archwilio’r effaith ar eu teuluoedd.
“Mae gofal iechyd yn ei hanfod yn ymwneud â gwella iechyd pobl. Ac i farnu llwyddiant hynny, mae’n rhaid i chi ofyn i’r cyhoedd ac i gleifion: ‘Beth sydd yn bwysig i chi? Beth sydd wedi bod yn arbennig o dda neu ddrwg, a sut y gallwn wella?’
“Nid yw byw yn unig yn ddigon. Mae angen gwybod sut mae bywyd i ddynion sy’n byw gyda chanser y prostad ac ar hyn o bryd nid oes gennym ddeallusrwydd digon da o hyn”.
Dr Adam Glaser, Cyd-arweinydd Ymchwilio i’r Astudiaeth Bywyd ar ôl Diagnosis o Ganser y Prostad.
Yr Hyn yr Ydym yn Gobeithio ei Gyflawni…
Nod yr ymchwil yw canfod mwy am yr effaith y mae canser y prostad yn ei gael ar fywyd bob dydd, trwy astudiaeth fydd yn cynnwys yr unig bobl sy’n gwybod mewn gwirionedd – dynion sydd wedi cael y profiad. Dyma’r canser mwyaf cyffredin ymysg dynion yn y Deyrnas Unedig, a gallai ei driniaeth effeithio ar ansawdd bywyd dynion a’u partneriaid/priod mewn sawl ffordd wahanol.
Bydd cynnydd clinigol a gwyddonol yn rheoli canser y prostad yn creu buddion o ran lles a chyfraddau goroesi ar gyfer cleifion os byddwn yn datblygu dulliau cynhwysfawr, ystyrlon o fesur y canlyniadau pwysig i gleifion.
Bydd yr astudiaeth yn cyflawni hyn trwy raglen gynhwysfawr o ymchwil i ganlyniadau a nodir gan gleifion (PROMs) yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd dros 100,000 o oroeswyr canser y prostad ym mhob un o bedair gwlad y DU a gafodd ddiagnosis o fewn cyfnod o 24 mis yn cael gwahoddiad i lenwi arolwg drwy’r post i’n helpu ni i ddeall eu profiadau.
Erbyn diwedd y prosiect, bydd y canlyniadau ar y cyd yn arwain at ddarlun manwl iawn o fywyd dynion â chanser y prostad ar draws y DU, sut mae hyn yn newid dros amser, beth sy’n eu helpu i ymdopi ag unrhyw broblemau a pha fylchau sydd mewn gwasanaethau cymorth a gofal.
“Mae amrywiadau tebygol yn safon y cymorth a’r gofal sydd ar gael mewn ardaloedd gwahanol – yn rhyngwladol, rhwng gwledydd gwahanol y DU, a hyd yn oed rhannau gwahanol o’r un wlad.
Bydd y prosiect, a ariennir gan Sefydliad Movember, yn cysylltu â gwaith tebyg a ariennir gan Sefydliad Movember yn Iwerddon ac Awstralia er mwyn i ni allu cymharu a dysgu o’r ffordd y mae dynion yn ymdopi mewn gwledydd gwahanol, yn ogystal â rhannau gwahanol o’r un wlad”.
Dr Anna Gavin, Cyd-arweinydd Ymchwilio i’r Astudiaeth Bywyd ar ôl Diagnosis o Ganser y Prostad
Sut Bydd y Prosiect yn Gweithio?…
Mae consortiwm ar draws y DU o ymchwilwyr, arbenigwyr clinigol a chleifion wedi cael ei ffurfio i ddatblygu’r astudiaeth, a bydd yn arolygu goroeswyr Canser y Prostad ym mhob un o bedair gwlad y DU a gafodd ddiagnosis o fewn cyfnod o 24 mis.
Dros y tair blynedd nesaf, anfonir arolygon i dros 100,000 o ddynion ar draws y DU, a gwahoddir sampl llai o ddynion a’u partneriaid/priod i gymryd rhan mewn cyfweliadau dros y ffôn, er mwyn datblygu dealltwriaeth manylach o’r materion y mae dynion â chanser y prostad a’u teuluoedd yn eu hwynebu, a sut y mae’r rhain yn newid dros amser.
Bydd yr arolwg, a’r cyfweliadau, yn fanwl iawn ac yn cynnwys pob math o gwestiynau am fywyd ar ôl diagnosis a thriniaeth am ganser y prostad.
Bydd dynion sy’n llenwi’r arolwg hwn ac yn cymryd rhan yn y cyfweliadau yn amlwg yn rhoi llawer o wybodaeth sensitif, felly mae’n bwysig gwybod y bydd yr holl ymatebion i’r arolwg yn gwbl ddi-enw ac na fydd unrhyw ffordd o adnabod unrhyw ddyn unigol o’i atebion. Os hoffech ddarllen mwy gallwch lawrlwytho copi o’n Hasesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd (caiff hwn ei lanlwytho yn fuan).
I ganfod mwy am y prosiect gellir lawrlwytho Protocol llawn yr Astudiaeth yma.